Mabwysiadwyd baner Trinidad a Thobago ddiwrnod ei hannibyniaeth o'r Deyrnas Unedig ar 31 Awst 1962. Cynlluniwyd y faner gan Carlisle Chang (1921-2001), [1][2] a dewiswyd y faner gan y pwyllgor annibyniaeth yn 1962. Mae'r coch, du a gwyn yn symboli tân (yr haul, yn cynrychioli dewrder), y ddaear (yn cynrychioli ymroddiad) a dŵr (sy'n cynrychioli purdeb a chydraddoldeb).[3]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search